Croeso!
Croeso i wefan newydd i athrawon sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ein bwriad yw ceisio annog athrawon i gyd-weithio a rhannu eu syniadau a'u profiadau gyda’i gilydd. Er mwyn sicrhau defnydd teg i bob aelod o gymuned ein gwefan mae'n ofynnol i bawb gofrestru cyn defnyddio'r adnoddau. DOES DIM ANGEN TALU ac wrth gwrs mae'r adnoddau yn rhad ac am ddim i bawb ar ôl i chi gofrestru.
Cofrestrwch nawr drwy glicio ar y gair cofrestru. Neu cliciwch ar y gair cofrestru sydd ar ochr dde tudalen flaen y wefan hon! Nid ydym am wneud elw o'r wefan hon. Ein bwriad fydd creu adnodd newydd, cyffrous, arloesol a defnyddiol i athrawon sy'n dysgu heddiw yn y dosbarth.
Os hoffech gyfrannu at ein gwefan, cysylltwch â ni yma yng Nghaerdydd. Dilynwch y linc isod am fwy o fanylion.
Diolch yn fawr i chi am eich cydweithrediad.







